Polisi Preifatrwydd
POLISI PREIFATRWYDD WPV AR GYFER Y WEFAN
Yn Watkin Property Ventures, rydym wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd ymwelwyr â’n gwefan. Mae’r polisi yn nodi sut byddwn yn trin eich gwybodaeth bersonol. Mae’n gwefan yn defnyddio cwcis. Drwy ddefnyddio ein gwefan, a chytuno â’r polisi hwn, rydych yn rhoi caniatâd i ni ddefnyddio cwcis yn unol â thelerau’r polisi hwn.
(1) Pwy ydym ni
Watkin Property Ventures ydym ni, cwmni wedi’i ymgorffori yng Nghymru a Lloegr, rhif y cwmni 11699748. Ein cyfeiriad cofrestredig yw 6 Llys Castan, Parc Menai, Bangor, Gwynedd, LL57 4YH
Yn y polisi hwn, rydym yn cyfeirio atom ein hunain fel “ni”, “ein” a “Watkin Property Ventures”.
(2) Pa wybodaeth ydym yn ei chasglu?
Gallwn gasglu, storio a defnyddio’r mathau a ganlyn o wybodaeth bersonol
1. Gwybodaeth am eich cyfrifiadur a’ch ymweliadau i’r wefan hon a’r defnydd a wnewch ohoni (gan gynnwys eich cyfeiriad IP, lleoliad daearyddol, math o borwr a’r fersiwn, system weithredu, ffynhonnell atgyfeirio, hyd yr ymweliad, y tudalennau a welsoch a gwe-lywio ar y wefan).
2. gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw drafodion a wneir rhyngoch chi a ni mewn perthynas â’r wefan hon, gan gynnwys gwybodaeth am unrhyw wasanaeth rydych chi’n ei brynu gennym ni.
3. gwybodaeth rydych chi’n ei darparu i ni at ddiben tanysgrifio i’n gwasanaethau ar y wefan, a chael gwybodaeth dros e-bost a / neu newyddlenni; ac
4. unrhyw wybodaeth arall rydych chi’n dewis ei hanfon atom.
(3) Cwcis
Cwci yw ffeil sy’n cynnwys dyfais adnabod (cyfres o lythrennau a rhifau) sy’n cael ei anfon gan weinydd gwe i borwr gwe ac sy’n cael ei storio gan y porwr. Mae’r ddyfais adnabod yn cael ei hanfon yn ôl at y gweinydd bob tro mae’r porwr yn gwneud cais am dudalen o’r gweinydd. Mae hyn yn galluogi’r gweinydd gwe i nodi ac olrhain y porwr gwe.
(4) Defnyddio eich gwybodaeth bersonol
Bydd gwybodaeth bersonol a anfonwyd atom drwy’r wefan hon yn cael ei defnyddio at y dibenion penodol a nodwyd yn y polisi preifatrwydd hwn neu mewn rhannau perthnasol o’r wefan.
Gallem ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol i:
1. anfon datganiadau ac anfonebau atoch, a chasglu taliadau gennych chi;
2. anfon negeseuon e-bost yr ydych chi wedi gwneud cais penodol amdanynt atoch.
Pan fyddwch chi’n cyflwyno gwybodaeth bersonol i’w chyhoeddi ar ein gwefan, fe wnawn gyhoeddi, a defnyddio’r wybodaeth honno yn unol â’r caniatâd rydych chi’n ei roi i ni.
Ni fyddwn, heb eich caniatâd penodol, yn rhoi gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata uniongyrchol.
(5) Datgeliadau
Gallwn ddatgelu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un o'n cyflogeion, swyddogion, asiantwyr, cyflenwyr neu isgontractwyr cyn belled ag sy’n rhesymol angenrheidiol at y dibenion a nodwyd yn y polisi preifatrwydd hwn.
Yn ogystal, gallwn ddatgelu eich gwybodaeth bersonol:
1. cyn belled ag sy’n rhaid i ni wneud yn ôl y gyfraith.
2. mewn cysylltiad ag unrhyw achosion cyfreithiol parhaus neu ddarpar achosion cyfreithiol, er mwyn sefydlu, arfer neu amddiffyn ein hawliau cyfreithiol (gan gynnwys darparu gwybodaeth i eraill at ddibenion atal twyll a gostwng risg credyd);
3. i brynwyr (neu ddarpar brynwr) unrhyw fusnes neu ased yr ydym ni’n ei werthu (neu’n ystyried ei werthu); ac
4. i unrhyw unigolyn rydym ni’n credu’n rhesymol allai wneud cais i lys neu awdurdod cymwys arall, i ddatgelu’r wybodaeth bersonol honno, lle, yn ein barn rhesymol ni, y byddai’r llys neu’r awdurdod hwnnw’n debygol o orchymyn datgelu’r wybodaeth bersonol.
Ar wahân i lle nodir hynny yn y polisi preifatrwydd hwn, ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth i drydydd partïon eraill.
(6) Diogelwch eich gwybodaeth bersonol
Byddwn yn cymryd rhagofalon technegol a sefydliadol i atal colli, camddefnyddio neu newid eich gwybodaeth bersonol.
Rydych chi’n cydnabod bod rhannu gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn anniogel oherwydd ei naws, ac ni allwn warantu diogelwch y data a anfonir dros y rhyngrwyd.
(7) Diwygio’r Polisi
Gallwn ddiweddaru’r polisi preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd drwy bostio fersiwn newydd ar ein gwefan. Dylech wirio’r dudalen hon o bryd i’w gilydd i sicrhau eich bod yn fodlon gyda’r newidiadau.
(8) Eich hawliau
Gallech wneud cais i ni ddarparu unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch ar eich cyfer. Bydd darparu gwybodaeth o’r fath yn destun:
1. talu ffi (£10 ar hyn o bryd)
2. darparu tystiolaeth briodol o’ch hunaniaeth (at y diben hwn, byddwn fel arfer yn derbyn llungopi o’ch pasbort, wedi’i ardystio gan gyfreithiwr neu fanc ynghyd â chopi gwreiddiol o fil gwasanaeth yn dangos eich cyfeiriad cyfredol).
Gallwn gadw gwybodaeth bersonol yn ôl yn unol â'r hyn a ganiateir drwy’r gyfraith.
Gallwch roi cyfarwyddyd i ni i beidio â phrosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata, drwy anfon neges e-bost atom. Fel arfer, byddwch naill ai'n cytuno ymlaen llaw i'n defnydd o’ch gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata, neu byddwn yn eich darparu chi gyda chyfle i optio allan o ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata.
(9) Gwefannau trydydd parti
Mae’r wefan yn cynnwys dolenni cyswllt i wefannau eraill. Nid ydym yn gyfrifol am bolisïau preifatrwydd nac arferion gwefannau trydydd parti.
(10) Diweddaru gwybodaeth
Rhowch wybod i ni os ydi’r wybodaeth bersonol rydym ni’n ei chadw amdanoch angen ei gywiro neu ei ddiweddaru.
(11) Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi preifatrwydd hwn, neu’n triniaeth o’ch gwybodaeth bersonol, ysgrifennwch atom drwy'r post: Rheolwr Cefnogi Grŵp, Watkin Property Ventures, 6 Llys Castan, Parc Busnes Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4FH.