Cymraeg

At present, the best Rolex Replica are Swiss movements, assembled in Hong Kong, white steel color is 316L steel or 904L steel, gold part is 18K gold or rose gold, work fine, accurate and stable walking, men should Have a 1:1 replica rolex , it is cost-effective, excellent workmanship. Buy your fake rolex here.

Ein hanes

Mae teulu Watkin Jones wedi bod yn weithgar mewn eiddo ers naw cenhedaeth. O adeiladu a datblygu i fuddsoddi a chyllid, mae ein teulu wedi bod yn weithgar yn y diwydiant am fwy na 200 mlynedd.

Sefydlwyd busnes teuluol cyntaf Watkin Jones ym Mangor, Gogledd Cymru yn 1791. Cychwynodd mewn gwaith saer, symudodd y busnes yn ddiweddarach i adeiladu. Bellach yn cael ei adnabod fel Watkin Jones plc, roedd y cwmni wrth wraidd twf yr ardal leol, hyd yn oed yn gosod carreg gyntaf Adeiladau Coleg Prifysgol Bangor. Symudodd Watkin Jones plc i’r sector preswyl yn y 1920au, gan adeiladu cartrefi preifat yng Ngogledd Cymru, yn ehangu yn y 1990au gydag is-adran cartrefi newydd.

Yn 1999, cwblhaodd Watkin Jones plc ei ddatblygiad llety myfyrwyr cyntaf ac, yn dilyn argyfwng ariannol 2008, aeth y cwmni o nerth i nerth. Trawsnewidiodd y busnes o fod yn ddatblygwr rhanbarthol i enw cenedlaethol mewn llety myfyrwyr. Cyn ei roid ar Gyfnewidfa Stoc Llundain yn 2016. Gadawodd teulu Watkin Jones y busnesau yn 2018 i ganolbwyntio ar Watkin Property Ventures ond parhau i fod yn gyfranddalwyr lleiafrifol.

Rydym bob amser wedi addasu i’r farchnad sy’n newid. Dyna’r glasbrint ar gyfer ein llwyddiant. Ers y 18fed ganrif, rydym wedi gweithio ym mron bob maes eiddo.

Watkin Jones yn goruchwylio carreg sylfaen adeiladau newydd Coleg Prifysgol Bangor yn cael ei gosod ym Mangor.

Watkin Jones yn goruchwylio carreg sylfaen adeiladau newydd Coleg Prifysgol Bangor yn cael ei gosod ym Mangor.