Cymraeg

At present, the best Rolex Replica are Swiss movements, assembled in Hong Kong, white steel color is 316L steel or 904L steel, gold part is 18K gold or rose gold, work fine, accurate and stable walking, men should Have a 1:1 replica rolex , it is cost-effective, excellent workmanship. Buy your fake rolex here.

Bangor Cricket Club 3 Landscape 1

Clwb Criced Bangor yn sicrhau buddsoddiad o £100k

Mae Watkin Property Ventures (WPV) wedi ymrwymo i gyfrannu £10k y flwyddyn i Glwb Criced Bangor tan 2034 er mwyn recriwtio hyfforddwyr a gwella cyfleusterau’r clwb.

Daw'r rhodd yn dilyn partneriaeth rhwng y clwb a'r busnes sydd wedi ymestyn dros sawl blwyddyn. Mae gweithio gydag elusennau a grwpiau lleol trwy ei Gronfa Gymunedol yn rhan ganolog o genhadaeth WPV.

Mae Mark Watkin Jones, Prif Weithredwr Watkin Property Ventures, yn falch o barhau gyda’r gefnogaeth, wedi noddi deg mil i’r clwb flwyddyn ddiwethaf. Dywedodd: "Mae chwaraeon yn hanfodol i’n cymunedau; mae'n cysylltu pobl, yn annog cynhwysiant ac yn gwella iechyd meddwl. Rydyn ni’n gobeithio gall yr ymrwymiad hirdymor hwn helpu’r clwb i ddatblygu, cynllunio a pharhau i fod o fudd i chwaraewyr ifanc a’r gymuned leol.

“Rydyn ni eisiau cefnogi achosion fel hyn sy'n cael effaith gadarnhaol yn lleol, ein prif flaenoriaeth yw i gefnogi prosiectau sy’n gwella iechyd meddwl. Rydym wrth ein bodd yn cefnogi'r clwb hanesyddol hwn ac yn edrych ymlaen i weld sut y bydd yr arian yn helpu chwaraewyr ac ymwelwyr i fwynhau criced i’r dyfodol."

Mae Tŷ Newydd, maes y clwb criced yn gartref i wahanol dimau, gan gynnwys timau menywod, dynion ac iau. Mae'r clwb hefyd yn gweithredu fel canolbwynt cymunedol, gan annog pobl ifanc o’n cymuned i chwarae, dysgu sgiliau newydd, a chymdeithasu yn eu hamser hamdden.

Roedd Gareth Edwards, Cadeirydd Clwb Criced Bangor yn awyddus i ddiolch i WPV am eu haelioni. Dywedodd: "Rydym yn hynod ddiolchgar i Mark a Chronfa Gymunedol WPV am yr ymrwymiad sylweddol hwn. Heb os, bydd yn ein helpu i ddatblygu a sicrhau ein bod yn cyrraedd ac yn gallu rhannu’r budd gyda chymaint o bobl yn ein cymuned â phosib.

"Gyda'r arian yma, gallwn wella ein cyfleusterau ymwelwyr a chefnogi ein chwaraewyr a'n hyfforddwyr yn well. Rydym am ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o."

Adam Walk

Teulu yn codi arian ar gyfer elusen a helpodd eu babi cynamserol

Mae ein Rheolwr Cyllid Adam ac ei wraig yn codi arian i elusen newyddenedigol, Cuddles, i ddiolch am eu cymorth wrth ofalu am eu mab. Cafodd Finely ei eni fis Mehefin diwethaf 29 wythnos yn gynnar, yn pwyso dim ond dau bwys a 14 owns.

Treuliodd Finley, sydd bellach yn un oed, bum wythnos gyntaf o’i fywyd yn Ysbyty Glan Clwyd, cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Gwynedd am chwe wythnos. Mae ei rieni, Adam ac Anwen Brierley, bellach yn codi arian i Cuddles, ac yn gobeithio gwneud hyn drwy gymryd rhan mewn taith gerdded noddedig 34 milltir rhwng y ddwy ysbyty.

Yn elusen wedi'i leoli yn Ysbyty Glan Clwyd, mae Cuddles yn darparu offer achub bywyd a chefnogaeth i deuluoedd yn yr uned babanod gofal arbennig, gan ategu at a chefnogi’r Gwasanaeth Iechyd.

Dywedodd Adam: "Allwn ni ddim diolch digon i'r staff yn yr ysbyty. Fel rhiant, rydych chi’n gobeithio na fyddwch chi byth angen defnyddio’r gwasanaeth yma, ond mae eu cefnogaeth wedi bod yn anhygoel ac yn amhrisiadwy i ni. Rydw i mor ddiolchgar bod Cuddles wedi helpu ein teulu drwy gyfnod mor anodd, felly rydyn ni am roi yn ôl er mwyn helpu teuluoedd eraill yn yr un sefyllfa.

Ers clywed stori Finley, fe gafodd cydweithwyr Adam yn Watkin Property Ventures, eu hysbrydoli i gefnogi Cuddles ymhellach trwy ei wneud yn elusen staff ar gyfer 2024. Mae Mark Watkin-Jones, y Prif Weithredwr, yn falch bod y cwmni yn cefnogi'r achos da hwn: "Roedd y tîm yn awyddus i helpu gwaith ac ymroddiad Cuddles, yn enwedig wrth glywed am y gefnogaeth gafodd Adam a'i deulu. Rydyn ni’n am ddymuno pob lwc iddyn nhw gyda’r daith gerdded."

Mae Angela Hannah, Uwch Nyrs Newyddenedigol yn Ysbyty Glan Clwyd, yn ddiolchgar am y gefnogaeth, dywedodd: "Mae Cuddles yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac yn cael ei ariannu yn llwyr drwy gefnogaeth y cyhoedd, digwyddiadau codi arian a rhoddion. Rydyn ni’n rhyfeddu bob tro wrth weld y gefnogaeth rydyn ni’n gael pan mae pobl yn codi arian at yr elusen, ni fyddai Cuddle yn lle mae o heddiw heb pobl fel Adam a'i deulu."

Meddai Adam: "Rydyn ni'n teimlo ychydig yn nerfus gan fod hon yn daith gerdded hir, fydd yn cymryd tua 12 awr i ni, ond rydyn ni'n edrych ymlaen at weld teulu, ffrindiau a chyfoedion yn ein cefnogi ar hyd y ffordd. Mae'r tîm yn y gwaith wedi bod yn gefnogol iawn, ac efallai y cawn ychydig o bobl yn ymuno â ni ar hyd y daith. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am bob cyfraniad a chefnogaeth."

I ddarllen mwy am y daith gerdded noddedig neu i gyfrannu: Adam ac Anwen Brierley yn codi arian ar gyfer Cuddles (justgiving.com)

L Lun or tim 002 resize

Tim Rygbi Dan 8 'Little Stars'

Mae cwmni Watkin Property Ventures (WPV) drwy eu cronfa gymunedol, wedi noddi crysau tîm rygbi dan 8 lleol ‘Little Stars’.

Yn rhan o Glwb Rygbi Bangor, mae Little Stars yn annog plant i ddysgu sgiliau fel disgyblaeth, parch, a gwaith tîm trwy gymryd rhan a chael hwyl yn y chwarae rygbi. Mae’r clwb yn chwarae rhan bwysig wrth annog y gymuned i gymryd rhan yn rygbi, gan redeg timau ar gyfer plant mor ifanc â thair oed hyd at lefel y gynghrair genedlaethol.

Mae'r cyfraniad yma adlewyrchu ymrwymiad y cwmni i gefnogi prosiectau lleol a all wneud gwahaniaeth mawr i gymunedau. Dywed Mark Watkin Jones, Prif Weithredwr, Watkin Property Ventures: "Mae gan Little Stars, yn ogystal â Chlwb Rygbi Bangor, wreiddiau ar draws y gymuned leol - ac rydym yn falch o fod yn rhan o hynny. Dylai pawb gael y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon tîm, ac rydym yn gobeithio y bydd y criw ifanc yn elwa o'n cyfraniad".

Mae Jessica Arthur yn un o hyfforddwyr y Little Stars ac yn rhiant balch i un o’u chwaraewyr; ychwanegodd: "Pan gytunodd cronfa gymunedol Watkin Property Ventures i gefnogi ein tîm, roedden ni’n yn hynod ddiolchgar. Nid yn unig fydd y tîm yn falch o wisgo logo eu clwb, ond mi fyddant yr un mor falch o gynrychioli Watkin Property Ventures wrth chwarae eu gorau ar y cae o wythnos i wythnos. Fel tîm, rydyn ni eisiau diolch i’r cwmni, Mark a Susan am eu cyfraniad hael."

Mae cronfa gymunedol WPV yn awyddus i gefnogi’r cymunedau y maent yn ymwneud â nhw, gan gydnabod y gall cyllid wedi’i dargedu wneud gwahaniaeth sylweddol. Mae'r cwmni wedi cefnogi amrywiol elusennau ac achosion, gan gynnwys clybiau chwaraeon, ysgolion lleol, gerddi cymunedol, banciau bwyd ac elusennau iechyd meddwl.

Mae Clwb Rygbi Bangor yn ymfalchïo o fod yn gynhwysol a chroesawgar i bob aelod. Os hoffech wybod mwy: https://www.bangor-rugby.co.uk/events

Cuddles WPV resize 800 x 600

Cyhoeddi Cuddles fel elusen Watkin Property Ventures ar gyfer 2024

Mae Watkin Property Ventures (WPV) wedi cyhoeddi mai Cuddles yw’r elusen sydd wedi ei enwebau gan staff ar gyfer 2024. Yn elusen sy’n gweithio gydag Uned Newyddenedigol Ysbyty Glan Clwyd, eu nod yw darparu offer hanfodol a chefnogaeth i deuluoedd a babanod.

Yn awyddus i helpu gwaith ac ymroddiad y tîm yn yr ysbyty yn Bodelwyddan gyda’u codi arian eleni, mae’r cyhoeddiad yn adlewyrchu ymrwymiad WPV a’i staff i gyfrannu at les y gymuned yng ngogledd Cymru.

Dywedodd Mark Watkin Jones, Prif Weithredwr WPV: “Roedden ni am gydnabod ymdrechion diflino staff Newyddenedigol Ysbyty Glan Clwyd ond hefyd y gwaith gwych y mae gwirfoddolwyr Cuddles yn ei wneud i’w cefnogi nhw. Maen nhw’n darparu gwasanaethau hanfodol i fabanod a theuluoedd sy'n wynebu heriau sylweddol. Rwy’n gobeithio y gallwn wneud gwahaniaeth yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o’u gwaith anhygoel.”

Fel elusen staff WPV, bydd Cuddles yn cael budd o weithgareddau codi arian trwy gydol y flwyddyn, wrth i’r tîm gymryd rhan mewn heriau a digwyddiadau gwahanol.

Sefydlwyd Cuddles yn 1993 gyda'i brif amcan o gefnogi adnoddau sy’n cael eu ddarparu gan y GIG, gan ddarparu offer a chyfleusterau i'r uned fel y gall staff ddarparu'r gofal gorau posibl i fabanod cynamserol. Mae gwirfoddolwyr hefyd yn rhoi cyngor a chefnogaeth i deuluoedd wrth iddynt wynebu misoedd cyntaf anodd gyda'u babanod cynamserol.

Mae Cuddles yn cael ei ariannu yn gyfan gwbl trwy gefnogaeth y cyhoedd ac chaiff ei redeg yn llwyr gan wirfoddolwyr.

FB team 800 x 600

Nadolig Banc Bwyd Coed Mawr 2023

🙌 Diolch o galon am roddion Banc Bwyd Coed Mawr.

Yn ystod tymor u Nadolig, dangosodd trigolion lleol wir haelioni drwy gefnogi teuluoedd yng nghymuned Bangor.

Ym mis Rhagfyr, roedd Watkin Property Ventures yn falch o weithio gyda Banc Bwyd Coed Mawr i godi arian i deuluoedd a thrigolion y gymuned i gael mynediad at becynnau bwyd. Am bob £1 a godwyd, roedd Watkin Property Ventures wedi cytuno i gyfranu punt arall er mwyn sicrhau bod pob rhodd yn mynd ychydig ymhellach.

Gan fynd y tu hwnt i’w targed, derbyniodd y banc bwyd £2,620 mewn rhoddion, gyda chyfraniadau Watkin Property Ventures yn dod â’r cyfanswm i £5,240. Roedd yr arian yn help i ddarparu pecynnau bwyd a chyflenwadau hanfodol eraill i deuluoedd dros y Nadolig.

Mae Watkin Property Ventures yn cefnogi achosion yn gyson ar draws Gogledd Cymru trwy eu cronfa gymunedol. Dywedodd Mark Watkin-Jones, Prif Weithredwr y cwmni: “Rydw i’n hynod falch o’r gymuned leol am godi’r arian yma i Fanc Bwyd Coed Mawr. Mae'r awydd i gefnogi'r rhai sy'n cael trafferth bwydo eu teuluoedd yn siarad cyfrolau am haelioni a charedigrwydd ein cymuned."

Dywedodd Christine King o Fanc Bwyd Coed Mawr: "Roedd cyfraniadau caredig gan y gymuned a Watkin Property Ventures yn ein helpu ni i ddarparu pecynnau bwyd i dros 60 o deuluoedd. Rydym wedi gweld mwy a mwy o bobl yn dod atom, yn cael trafferth i gwrdd â chostau o ddydd i ddydd - mae tymor y Nadolig bob amser yn ychwanegu at y pwysau yma. Rydyn ni’n gwybod fod hwn yn gyfnod heriol i lawer, felly rydym yn ddiolchgar am bob un rodd.”

Hoffai Watkin Property Ventures a Banc Bwyd Coed Mawr hefyd ddiolch i Bangor Aye am eu cefnogaeth wrth hyrwyddo’r ymgyrch.

Coed Mawr Food bank Xmas 2023 reduce size

Lansio ymgyrch Nadolig Banc Bwyd Coed Mawr 2023

Gyda chostau cynyddol a mwy o alw am gymorth, mae Banc Bwyd Coed Mawr yn lansio ei ymgyrch Nadolig yr wythnos hon ar y cyd â Watkin Property Ventures.

Y nod yw codi arian i ddarparu cyflenwadau ychwanegol i deuluoedd lleol sy'n wynebu trafferthion rhoi bwyd ar y bwrdd dros y Nadolig. Trwy’r ymgyrch mae gwirfoddolwyr yn apelio ar drigolion a busnesau Bangor i gyfrannu er mwyn roi rhywfaint o sicrwydd i deuluoedd yn ystod cyfnod yr ŵyl.

Mae Christine King o Ganolfan Gymunedol Coed Mawr yn egluro: “Rydym yn gweld mwy a mwy o deuluoedd lleol yn dod atom am eu bod yn cael trafferth i dalu costau byw dydd i ddydd. Ar ben hynny mae pawb yn gwybod bod y Nadolig yn dod â hyd yn oed mwy o bwysau yn ei sgil. Dyna pam ei bod hi mor bwysig ein bod ni i gyd yn dod at ein gilydd i wneud beth allwn i helpu. Rydym wedi sefydlu tudalen JustGiving fel y gall pobl gyfrannu. Rydyn ni'n gwybod bod pethau'n anodd i bawb, felly rydyn ni'n ddiolchgar am unrhyw rodd waeth pa mor fach.

“Rydym mor ddiolchgar i Watkin Property Ventures am eu cefnogaeth – mae’n gwneud byd o wahaniaeth ac yn golygu y gallwn helpu mwy o bobl mewn angen. Rydym wedi cynnal ymgyrch fel hon ers sawl blwyddyn ac wedi gweld dros ein hunain y gwahaniaeth y gall wneud dros gyfnod sydd yn medru bod yn anodd, yn enwedig os ydych yn cael trafferthion ariannol. Rydym yn gweithio gyda chyflenwyr bwyd lleol i wneud yr pecynnau bwyd ac mae gennym grŵp bach o wirfoddolwyr sy'n ein helpu i'w dosbarthu bob blwyddyn.“

Sefydlwyd y banc bwyd yn 2016, mae’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr lleol o Ganolfan Gymunedol Coed Mawr i ddarparu cefnogaeth a pharseli bwyd i drigolion. Mae’r grŵp yn gweithio gydag archfarchnadoedd lleol ac wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n dibynnu ar y banc bwyd yn dilyn y pandemig a’r cynnydd diweddar mewn costau byw.

Yn ogystal â’r cymorth misol y mae’n ei ddarparu, mae Watkin Property Ventures wedi cytuno i roi arian cyfatebol am bob punt sy’n cael ei godi yn ystod Ymgyrch y Nadolig – gyda tharged o £2,500 wedi’i osod.

Dywedodd Mark Watkin Jones: “Mae tîm Banc Bwyd Coed Mawr yn gweithio’n galed ac yn chwarae rhan bwysig yn lleol, ac maen nhw’n gwneud cymaint mwy na dosbarthu bwyd. Maen nhw’n agos at y gymuned a bob amser yn barod i wrando a rhoi cymorth emosiynol pan fo angen. Roedden ni yn fwy na hapus i gefnogi’r ymgyrch hon a byddwn yn annog pobl i roi’r hyn a allant drwy’r dudalen Just Giving.”

Ar hyn o bryd mae'r ganolfan yn dosbarthu rhwng 40 a 50 pecyn bwyd yr wythnos gyda phum pryd o fwyd a grawnfwydydd brecwast ym mhob un. Mae hyn yn cyfateb i dros 1,000 o brydau bwyd y mis. Mae lansiad ymgyrch y Nadolig yn cyd-fynd â'r banc yn cyrraedd cyfanswm o 40,000 o brydau wedi'u dosbarthu.

2023 12 08 Photo Ty Gobaith cheque presentation re size

Tŷ GOBAITH

Yn ôl Yn 2021, lansiodd Tŷ Gobaith eu hymgyrch 36 awr gyda’r nod o godi £500,000 i sicrhau na fyddai unrhyw deulu’n wynebu colli plentyn ar ei ben ei hun yn y misoedd dilynol.

Mae Watkin Property Ventures wedi bod yn gefnogwr i’r ymgyrch hon ers y cychwyn cyntaf. Mae Andy Everley o’r elusen yn egluro: “Yn ystod ymgyrch eleni mae Watkin Property Ventures wedi ariannu gwasanaethau brys a gofal diwedd oes i blant â salwch terfynol. Mae hyn yn dangos effaith ddwys un rhodd. Rydym yn diolch yn fawr i WPV am eu cefnogaeth gyson i’r ymgyrch hon, un sydd wedi gwella’r eiliadau olaf yn sylweddol i blant lleol sy’n ddifrifol wael a’u teuluoedd.”

2023 12 08 Photo Air Amb cheque presentation resiz

Mae staff Watkin Property Ventures yn codi £2,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr

Dewisodd staff Watkin Property Ventures (WPV) Ambiwlans Awyr Cymru fel eu elusen staff ar gyfer 2022/23. Trwy gyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau, llwyddodd gweithwyr i godi cyfanswm o £1,000, gyda Chronfa Gymunedol y cwmni yn rhoi punt am bunt i gyrraedd y nod o £2,000.

Mae’r rhodd yn amlygu ymrwymiad WPV i gael effaith gadarnhaol yn y gymuned ac i gefnogi sefydliadau sydd â rôl hollbwysig yn y gwasanaethau brys lleol.

Gyda gweithgareddau codi arian ac adeiladu tîm trwy gydol y flwyddyn roedd staff yn frwdfrydig wrth gefnogi'r elusen.

Bydd y rhodd o £2,000 yn cyfrannu'n uniongyrchol at waith yr Ambiwlans Awyr o ddarparu gwasanaethau achub bywyd a gofal meddygol mewn sefyllfaoedd brys. Mae WPV yn ddiolchgar i’r holl staff, partneriaid, a chefnogwyr a gyfrannodd at yr ymgrych codi arian eleni.

Bangor 1876 25k

Bangor 1876 yn sicrhau nawdd o £25,000

Mae Clwb Pêl-droed Bangor 1876 yn ddiolchgar i Watkin Property Ventures yn dilyn sicrhau cytundeb nawdd newydd. Bydd y cyfanswm o £25,000 yn galluogi’r clwb i roi cymorth ychwanegol i chwaraewyr ac mae’n gam tuag at ddileu rhwystrau ariannol i bobl ifanc sydd eisiau chwarae pêl-droed ym Mangor.

Gyda’u hymrwymiad i’r gymuned, mae Watkin Property Ventures yn cydnabod mor bwysig ydi chwaraeon i hybu lles corfforol a meddyliol. Y gobaith gyda’r rhodd, yw mynd i’r afael â’r heriau hirdymor sy’n rhwystro pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn chwaraeon tîm gan gynnwys cost gynyddol cludiant a phrynu cit. Wrth barhau â’u partneriaeth gyda Watkin Property Ventures, mae clwb Bangor 1876 yn gobeithio gallu cynnwys hyd yn oed mwy o chwaraewyr yng ngweithgareddau’r clwb.

Cyflwynwyd y rhodd gan Mark Watkin Jones, Prif Weithredwr Watkin Property Ventures, a Susan Ashworth i Glynne Roberts, Cadeirydd Bangor 1876, yng ngêm gyntaf y tymor. Wrth chwarae yng Nghynghrair Gogledd Cymru, curodd Tîm Cyntaf y dynion CPD Llanidloes, gyda sgôr terfynol o 6-0.

Mae Mark yn awyddus i gynnwys pobl ifanc o bob cefndir mewn chwaraeon. Dywedodd: “Rydym yn credu y dylai pawb gael y cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon tîm. Mae’n bleser gennym gyfrannu at Glwb Pêl-droed Bangor 1876 er mwyn cefnogi’r rhai sy’n wynebu peidio gallu chwarae oherwydd pwysau ariannol neu anawsterau eraill. Mae chwaraeon tîm yn cael effaith bositif ar iechyd meddwl ac mae cefnogi’r clwb pêl-droed yn golygu y gall mwy o chwaraewyr brofi’r manteision.”

Mae’r clwb yn falch iawn o’i wreiddiau ac yn ymroddedig i wasanaethu’r gymuned leol. Mae gan y clwb dîm hŷn, ac adran iau sy’n mynd o nerth i nerth.

Dywedodd Glynne Roberts: “Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Watkin Property Ventures. Mae cynnwys pawb yn bwysig i ni fel clwb, a gyda’r cyfraniad sylweddol yma, gallwn wneud yn siŵr bod ein chwaraewyr iau yn cael eu cefnogi. Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar fwy a mwy o’n chwaraewyr, ac rydym yn awyddus i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael allan.”

Mae cefnogaeth Watkin Property Ventures i Glwb Pêl-droed Bangor 1876 yn adlewyrchu eu hymrwymiad i’r gymuned a’u chyfrifoldeb cymdeithasol. Mae’r cwmni yn cenfogi amryw o fentrau elusennol, gan gynnwys rhaglenni addysg, iechyd, a chwaraeon ar draws y rhanbarth.


Bangor CC photo chq presentation 1

Clwb Criced Bangor yn ei tharo hi am chwech diolch i rodd o £10,000

Diolch i gyfraniad gan Watkin Property Ventures bydd Clwb Criced Bangor yn cyflogi hyfforddwyr newydd i gefnogi eu gwirfoddolwyr a chwaraewyr iau. Bydd y cyfraniad o £10,000 yn cefnogi’r clwb wrth iddyn nhw hyrwyddo chwaraeon a recriwtio aelodau newydd yn y gymuned leol.

Cyflwynwyd y rhodd gan Mark Watkin Jones, Prif Weithredwr Watkin Property Ventures, i Gareth Edwards, Cadeirydd y Clwb Criced. Caiff yr arian ei ddefnyddio i wella hyfforddiant, datblygu talent newydd a phresennol, ac adeiladu strwythur fydd yn cefnogi datblygiad chwaraewyr iau am flynyddoedd i ddod.

Dywedodd Mark Watkin Jones: “Rydym ni’n falch iawn o gael estyn ein cefnogaeth i Glwb Criced Bangor. Mae gan chwaraeon allu arbennig i ddod â phobl at ei gilydd, i gynnwys pawb, ac i wella iechyd meddwl. Fel cwmni sydd â’n gwreiddiau’n ddwfn yn y gymuned, rydym yn credu mewn buddsoddi mewn sefydliadau lleol sy’n cael effaith gadarnhaol, ac mae’r hyn mae Clwb Criced Bangor yn ei wneud yn cyd-fynd â’r weledigaeth yma.”

Cafodd Clwb Criced Bangor ei sefydlu yn 1856 gyda’r cae chwarae yn Tŷ Newydd yn gartref iddynt ers bron i ganrif. Dros y fwlyddyn diwethaf, mae’r clwb wedi bod yn datblygu y timau iau ac wedi cychwyn tîm merched. Yn weithgar yn y gymuned, mae Clwb Criced Bangor yn ganolfan i bobl ifanc ddod i roi cynnig ar chwarae criced, dysgu sgiliau newydd, a chymdeithasu.

Mae Gareth Edwards yn falch o'r bartneriaeth gyda Watkin Property Ventures. Dywedodd: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Mark a’r cwmni am eu nawdd hael. Bydd y cyfraniad sylweddol yma yn mynd ymhell i gryfhau ein hymdrechion i greu cymuned sy’n ffynnu i’n haelodau ac i rai sydd gan ddiddordeb mewn chwarae criced. Gyda’r arian, fe allwn wella ein cyfleusterau a gall ein chwaraewyr gael hyfforddiant gan dîm profiadol. Heb os, bydd y rhodd yn annog datblygiad ein cricedwyr ifanc.”

Mae rhodd Watkin Property Ventures i Glwb Criced Bangor yn adlewyrchu ymrwymiad y cwmni i’r gymuned ac i gyfrifoldeb cymdeithasol. Mae’r cwmni yn chwarae rhan fawr mewn amrywiol fentrau elusennol, gan gefnogi rhaglenni addysg, gofal iechyd, a chwaraeon ledled y rhanbarth.

Dementia club 4

Clwb Atgofion Chwaraeon Bangor/Dementia Actif Gwynedd

Mae Watkin Property Ventures ar y cyd â CPD Bangor 1876 FC wedi cefnogi clwb atgofion chwaraeon Bangor yn Bwyd Da, Bangor ar brynhawn dydd Llun, rhwng 3:00 – 4:30.

Cynhelir y sesiynau gan Demencia actif Gwynedd, mae pawb sy’n cymryd rhan yn mwynhau’r sesiynau ac yn gystadleuol iawn. Croeso cynnes i unrhyw un sydd â diddordeb ymuno am baned a sgwrs.

Hillgrove ground breaking re size

Tŷ Hillgrove, Bangor

Seremoni torri’r dywarchen gyntaf i ddathlu dechrau adeiladu'r ganolfan adfer

Mae'r gymuned leol wedi dod ynghyd i nodi dechrau prosiect gwerth £3 miliwn i ddatblygu cyn Ysgol Hillgrove, Bangor yn gartref newydd i gymunedau adfer gogledd Cymru (NWRC).

Diolch i gefnogaeth Watkin Property Ventures, prynodd NWRC yr hen ysgol y llynedd. Ar ôl sicrhau caniatâd cynllunio, mae gwaith bellach wedi dechrau ar y safle i addasu'r adeilad yn gartref newydd y mae mawr ei angen ar gyfer preswylwyr NWRC.

Mark Watkin Jones, Prif Weithredwr a pherchennog Watkin Property Ventures dorrodd y dywarchen gyntaf fel arwydd bod y gwaith adeiladu wedi dechrau. Dywedodd: "Mae'r achlysur yn garreg filltir arwyddocaol i NWRC, ac rwy'n falch ein bod wedi gallu cefnogi'r prosiect hwn sy'n addo dod â newidiadau cadarnhaol i fywydau llawer yn yr ardal. Mae NWRC wedi bod yn gwneud gwaith gwych ers blynyddoedd lawer, bydd y ganolfan newydd yn eu helpu i gefnogi mwy o bobl ac yn darparu'r cyfleusterau modern y maent yn eu haeddu."

Ychwanegodd James Deakin, sylfaenydd NWRC: "Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom gan Mark a Susan yn Watkin Property Ventures - mae'n golygu y gallwn ddatblygu hwb cynaliadwy a fydd yn diwallu anghenion hirdymor ein cymuned therapiwtig.

"Roedd y digwyddiad yr wythnos hon hefyd yn gyfle gwych i ni gwrdd â'n cymdogion, busnesau lleol, preswylwyr ac asiantaethau eraill i arddangos y gefnogaeth rydyn ni'n ei darparu i bobl ar eu taith adferiad. Mae bod yn rhan o'n cymuned leol ehangach a chynnig gwasanaeth iddi yn rhan annatod o'r hyn rydym yn ei wneud ac mae digwyddiad fel hwn yn galluogi I ni godi ymwybyddiaeth am ein gwaith yma ym Mangor ac ymhellach i ffwrdd."

Sefydlwyd NWRC yn 2014 gan James Deakin, a oedd yn rhwystredig gyda'r diffyg cymorth adfer a oedd ar gael i bobl sy'n gadael gwasanaethau trin cyffuriau ac alcohol. Ers hynny, mae'r sefydliad wedi bod yn darparu rhaglen adsefydlu ac yn darparu llety ymatal o Dŷ Penrhyn ym Mangor.

Mae busnes yn y Gogledd, Techbuild wedi cael ei benodi fel y prif gontractwr ar y prosiect. Mae gwaith wedi dechrau ar y safle ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd 2023 gyda thrigolion yn symud i Hillgrove yn fuan wedyn.

Menter Canol y Ddinas, Bwyd Da Bangor oedd yn darparu'r arlwyo yn y lansiad. Gyda chynnyrch lleol wrth wraidd eu cynnig - roedd hwn yn gyfle i'r tîm yno arddangos eu doniau.

Ysgol Friars

Ysgol Friars, Bangor – Gliniaduron i Ddisgyblion 6ed Dosbarth

Mae'r cwmni wedi rhoi gliniaduron i fyfyrwyr Lefel A Ysgol Friars, Bangor er mwyn sicrhau bod gan bob myfyriwr fynediad i'r adnoddau angenrheidiol i lwyddo yn eu hastudiaethau. Mae’r rhodd ddiweddar hon yn rhan o gefnogaeth barhaus Mark a Susan i Ysgol Friars sy’n cynnwys ystod o fentrau sydd â’r nod o wella lles a phrofiad addysgol myfyrwyr yr ysgol.

Mynegodd Martin Williams, Dirprwy Bennaeth, ei ddiolchgarwch am eu cefnogaeth parhaus i’r ysgol a’r myfyrwyr. “Fel cyn-fyfyrwyr mae’r ddau yn adnabod yr ysgol a’r gymuned ac yn deall effeithiau Covid-19 a’r cynnydd mewn prisiau ar bobl ifanc a’u teuluoedd. Mae’n wych ar ôl mwynhau gyrfaoedd busnes llwyddiannus, fod y ddau bellach wedi ymrwymo i roi yn ôl i’r ysgol a chefnogi ein disgyblion.”

Dwedodd Susan Ashworth: “Rydym yn falch ein bod yn gallu cefnogi disgyblion Ysgol Friars yn y modd hwn. Mae cael mynediad digonol at offer TG yn hanfodol er mwyn i fyfyrwyr ffynnu. Rydym yn hyderus y bydd y cyfrifiaduron newydd yn helpu’r myfyrwyr i gyflawni eu llawn potensial.”

Waa logo stacked

Ambiwlans Awyr Cymru – Elusen Staff y Flwyddyn – 2022/2023

Bob blwyddyn mae ein staff yn dewis elusen leol i godi arian ar ei chyfer a’r elusen a ddewiswyd ar gyfer 2022/2023 yw Ambiwlans Awyr Cymru. Maent yn darparu gofal meddygol arbennig sy’n achub bywydau i bobl ledled Cymru ac yn dibynnu’n llwyr ar roddion elusennol.

Mae’r tîm yn WPV yn edrych ymlaen at godi arian a chael hwyl wrth wneud hynny!

Pwllheli Rugby Club 7

CLWB RYGBI PWLLHELI – TYMOR 2022/2023

Rydym yn falch iawn o barhau ein nawdd gyda Chlwb Rygbi Pwllheli eto eleni. Sefydlwyd y clwb yn 1972 ac eleni maent yn dathlu eu hanner canmlwyddiant; mae un ar bymtheg o dimau yn rhan o’r clwb. Bu cynnydd sylweddol dros y blynyddoedd ac rydym yn falch o gyhoeddi fod ein nawdd wedi galluogi’r clwb i ffocysu ar wella eu cyfleusterau ac hefyd wedi targedu gwella is-adeiledd ar gyfer cefnogwyr ac yn enwedig cefnogwyr anabl.

FMM supporting

Hope House/Ty Gobaith

Ymgyrch “Final Moments Matter” – 2022

Unwaith eto, mae WPV yn falch o fod yn rhan o’r ymgyrch “Final Moments Matter”. Roedd Tŷ Gobaith yn gofyn i gymunedau ddod at ei gilydd i godi £500,000 sef y gost blynyddol o ddarparu’r gofal diwadd oes gorau i bob plentyn a theulu yn ein rhanbarth sy’n troi at Hope House a Tŷ Gobaith am gefnogaeth.

Mae Watkin Property Ventures yn un o’r cefnogwyr sydd wedi addo £20,000 a chododd yr elusen gyfanswm anhygoel o £563,431.

Bangor CPF 1876 cheque present reseize for web

CPD BANGOR 1876 FC - TYMHORAU 2022 HYD AT 2025

Ffurfiwyd CPD Bangor 1876 FC yn 2019, gyda’r bwriad o ymgysylltu’n weithredol â’r gymuned gyfan a’i chynnwys, ac rydym yn falch iawn o barhau a’n nawdd am 3 thymor arall. Rydym wedi ymrwymo i £20,000 dros dair blynedd ac eto bydd yr arian yn mynd tuag at gostau rhedeg hanfodol, fodd bynnag, byddwn hefyd yn dod yn noddwyr crysau blaen am y tair blynedd nesaf.

Bydd rhan o’r arian hefyd yn cael ei ddefnyddio’n benodol i gefnogi ethos cymunedol y clwb er mwyn parhau i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc o bob cefndir gymryd rhan mewn pêl droed. Ymhellach, rydym hefyd yn awyddus i weithio gyda’r Clwb ar brosiectau sy’n anelu at hybu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.

Hospice

Hosbis Dewi Sant - Elusen Staff y Flwyddyn - 2021/2022

Pob blwyddyn mae staff WPV yn dewis cefnogi elusen lleol. Penderfynwyd eleni gefnogi Hosbis Dewi Sant.

Mae Hosbis Dewi Sant yn elusen lleol sy’n darparu gofal i oedolion sy’n gleifion yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn. Maen’t yn cynnig gofal lliniarol, arbenigol o ansawdd uchel am ddim i gleifion sydd â salwch sy’n cyfyngu ar fywyd, eu teulu a’u gofalwyr.

Yn ystod y flwyddyn, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau swyddfa a heriau i godi arian. Roedd y digwyddiadau yn cynnwys swîps amrywiol, digwyddiadau tymhorol megis cystadleuaeth cerfio pwmpenni calan gaeaf ac wythnos siwmperi Nadolig a her i’r staff am fis yn cynhyrchu camau cerdded. Cerddodd y tîm gyfanswm cyfunol o dros 4,500 o filltiroedd. Codwyd cyfanswm o £1,960.24 ar gyfer Hosbis Dewi Sant, roedd y swm yn cynnwys arian parod a godwyd gan staff ac arian cyfatebol gan WPV.

265726653 2003398016508914 3081733573774562418 n

Awyr Las - Elusen GIG Gogledd Cymru

Rydym yn falch iawn o fod yn brif noddwr ar gyfer Awyr Las “Goleuo’r Nadolig 2021”. Trwy “Goleuo’r Nadolig 2021” gwahoddir cymeundau lleol i gofio, diolch a dathlu anwyliaid a’r rhai y maent yn ddiolchgar iddynt trwy oleuo golau iddynt. Bydd y golau yn disgleirio’n llachar ar Bier Bangor trwy gydol mis Rhagfyr.

Mae “Goleuo’r Nadolig 2021” yn cynnwys gosodiad goleuadau arbennig ar y Pier, ac arddangosfa daflunio fydd yn teithio i ysbytai a chymunedau yn ogystal â lleoliadau gofal iechyd eraill yn Ngogledd Cymru.

Mae Awyr Las yn elusen ymbarel ar gyfer dros 400 o gronfeydd elusennol sydd gyda’i gilydd yn cefnogi pob uned, ward, adran, a phrosiectau cymunedol ar draws ardal Gogledd Cymru sy’n cael ei wasanaethu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Ty Gobaith Hope House size 3

Hope House/Ty Gobaith

Ymgyrch “Final Moments Matter” – 2021

Roedd Watkin Property Ventures yn falch o fod yn rhan o’r ymgyrch “Final Moments Matter”. Roedd Tŷ Gobaith yn gofyn i gymunedau ddodd at ei gilydd i godi £500,000 sef cost blynyddol darparu’r gofal diwedd oes gorau i bob plentyn a theulu yn ein rhanbarth sy’n troi at Tŷ Gobatih am gefnogaeth.

Mae Watkin Property Ventures yn un o’r cefnogwyr â addawodd £20,000. Hoffem longyfarch Tŷ Gobaith am gyflawni dros 100% o’u nod ar gyfer yr ymgyrch “Final Moments Matters”. Bu Tŷ Gobaith godi swm syfrdanol o 564,420 yn ystod y 36 awr yn mis Tachwedd 2021 ac mae rhoddion yn parhau i godi’r swm.

North Wales Recoveries logo 1

North Wales Recovery Communities

Rydym yn falch o gefnogi “North Wales Recovery Communities” sydd wedi ei leoli yn Nhŷ Penrhyn, Bangor.

Sefydlwyd NWRC yn 2014. Maent yn cynnal rhaglenni adsefydlu ar gyfer pobl sydd a chaethiwed i gyffuriau ac alcohol. Maent hefyd yn darparu ystod o lety ymatoliol o dŷ Penrhyn a rhai llety wedi’u gwasgaru ledled Bangor.

Mae NWR Cyn darparu lle diogel i gyfranogwyr yn ystod cyfnod adfer cynnar, tra hefyd yn sefydlu eu hunain yn y gymuned adferiad lleol. Mae darpariaeth gwybodaeth am ganlyniadau anhwylder o ddefnyddio sylweddau ond ar yr un pryd yn annog a chefnogi cyfranogwyr i adeiladu eu hadfeiriadau eu hunain drwy ymwneud â grwpiau chymorth a chefnogaeth o weithgareddau amrywiol eraill.

Gafael Llaw logo

Gafael Llaw - Elusen Staff y Flwyddyn - 2019/2020

Pob blwyddyn, mae’n staff yn dewis elusen leol i godi arian ar ei chyfer, a’r elusen a ddewiswyd ar gyfer 2019/2020 yw Gafael Llaw.

Sefydlwyd Gafael Llaw yn 2013 i gefnogi plant a phobl ifanc o Wynedd ac Ynys Môn sy’n dioddef o ganser. Mae’r arian sy’n cael ei godi gan Gafael Llaw yn mynd yn uniongyrchol tuag at wella’r cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd ar gael i blant gyda chanser.

Mae’r elusen yn darparu cefnogaeth uniongyrchol i Ward Dewi yn Ysbyty Gwynedd, gyda chyfraniadau sylweddol wedi cael eu gwneud yn barod i ddiweddaru ciwbiclau ar y ward, yn ogystal â chyfleusterau cyffredinol fel y man chwarae tu allan a’r ystafelloedd asesu.

Mae’r elusen hefyd wedi ymrwymo i gefnogi Alder Hey yn Lerpwl hefyd. Bydd dau giwbicl newydd yn ysbyty Alder Hey yn cael eu noddi gan Gafael Llaw gan olygu y bydd cyfleusterau a gwasanaethau o ansawdd uchel ar gael i blant o Wynedd ac Ynys Môn fydd yn aros yn yr ysbyty newydd. Bydd yr elusen yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod plant lleol yn cael gwasanaethau a deunydd yn Gymraeg.

Yn ystod 2020, cynlaliwyd nifer o heriau a digwyddiadau rhithwir a heriau drwy’r cyfnod clo i godi arian ar gyfer Gafael Llaw. Cymerodd aelodau o staff ran yn ‘Movember’, Bingo rhithwir a “sweepstakes” ar gyfer Gemau Olympaidd Tokyo, Rygbi’r 6 Gwlad, Ewro 2021 ac “I’m a celebrity get me out of here”. Bu’r staff hefyd gymryd rhan mewn her camau cystadleuol, rannwyd y staff i 2 dîm, gyda’r ddau yn ceisio teithio’r milltiroedd y byddai’n ei gymryd i gerdded pob eiddo yn ein portffolio ledled y DU. Llwyddodd y ddau dîm i ragori ar ddisgwyliadau gan lwyddo i gerdded digon o gamau i gyrraedd Ffrainc ac yn ôl.

Codwyd cyfanswm o £1,176 i Gafael Llaw, a oedd yn cynnwys arian a godwyd gan staff ac arian cyfatebol gan WPV.

Mosaic church

Banc Bwyd Mosaig

Rydym yn falch o barhau i gefnogi banc bwyd mosaig gyda’n rhodd misol rheolaidd. Mae’r banc bwyd wedi’i leoli yng Nghanolfan Gymunedol Coed Mawr ym Mangor ac mae’n gwasanaethu ardal Bangor a’r pentrefi cyfagos. Roedd banciau bwyd o gwmpas ymhell cyn y pandemig ond mae cynnydd sylweddol ers Covid-19 ac maent yn dosbarthu rhwng 200-250 o barseli yn fisol.

HH Champion Bronze 2020

Ty Gobaith/Hope House

Mae WPV yn falch iawn o ddod yn un o Hyrwyddwyr cyntaf Tŷ Gobaith! – grŵp o sefydliadau anhygoel sy’n credu yn eu gweledigaeth na ddylai unrhyw un wynebu marwolaeth eu plentyn ar ben ei hun.

Ar ôl colli incwm o £1.25 miliwn, mae Tŷ Gobaith yn wynebu costau ychwanegol, gan gynnwys PPE ar gyfer nyrsys a theuluoedd i sicrhau bod yr hosbiau yn Covid ddiogel i barhau i ddarparu gofal diwedd oes a gofal critigol i blant.

“Mae angen 12 masg FFP a 12 oferôl arnom mewn unrhyw un cyfnod o 24 awr ar gyfer pob plentyn. Mae’r costau ychwanegol yma, ynghŷd â cholli incwm, yn rhoi straen enfawr arnom”.

“Rydym yn cysylltu â chwmniau lleol yn gofyn iddynt gyfranu at yr achos drwy roi £780 i dalu cost PPE am 10 diwrnod ar gyfer un plentyn. Byddai’r gefnogaeth yma yn sicrhau bod y teuluoedd rydym yn gofalu amdanynt yn parhau i dderbyn y gofal angenrheidiol mae nhw’n ei haeddu yn ystod cyfnod y Nadolig eleni.”

Bydd ein rhodd o £7,800 yn talu cost PPE i 10 o blant am 10 diwrnod.

Rydym yn falch ein bod yn gallu cynorthwyo’r achos gwerth chweil hwn.

Mosaic church

Eglwys Gobaith, Bangor – Adref ar ben eu hunain ddydd Nadolig

Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf mae’r Eglwys Gobaith wedi darparu bwyd ac anrhegion i bobl sydd yn byw adref ar ben eu hunain ar ddydd Nadolig. Yn anffodus, oherwydd Cofid-19, ni fyddant yn gallu ymgynnull gyda’i gilydd yn 2020. Mae ein cefnogaeth yn golygu y bydd hyd at hanner cant o bobl yn cael hamperi sy’n cynnwys cinio Nadolig, cinio dydd Sant Steffan a nwyddau hyfryd.

Hobbit before after 1

Canolfan Gymunedol Coed Mawr, Bangor - Tŷ Hobbit

Yn ddiweddar, daeth i’n sylw fod Canolfan Gymunedol Coed Mawr, Bangor yn y broses o adeiladu tŷ Hobbit er budd y plant lleol.

Camodd Watkin Property Ventures i mewn i gwblhau’r prosiect oedd heb ei orffen a chaffaelwyd contractwr lleol i gwblhau’r prosiect. Gobeithio bydd y plant yn elwa’n fawr o’r prosiect hwn.

CPD Bangor 1876 Cheque Presentation

CPD Bangor 1876 FC - TYMHORAU 2019 HYD AT 2021

Ffurfiwyd CPD Bangor 1876 FC yn 2019, gyda’r bwriad o gysylltu gyda a chynnwys y gymuned gyfan. Rydym wedi addo darparu mwy na £34,000 dros dair blynedd i gefnogi’r clwb pêl-droed newydd hwn. Bydd yr arian yn cael ei wario ar elfennau fel rhent, yswiriant, costau rheoli, tadogaeth i gystadlaethau cynghrair a chwpanau, ac offer. Mae’r ymrwymiad tair blynedd yma yn rhoi sail ariannol gadarn i’r clwb i adeiladu arni. Wrth gefnogi gweithgarwch swyddfa gefn, mae’n golygu bod y clwb yn gallu manteisio ar gyfleoedd ar gyfer cefnogaeth o gemau a nawdd chwaraewyr, a chyfleoedd brandio eraill fel dillad hyfforddi.

Care Repair 3

Care & Repair North Wales

Mae Care & Repair yn helpu pobl hŷn yng Nghymru i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae’n darparu cymorth ymarferol i greu cartrefi diogel, cynnes a hygyrch, yn amrywio o roi cyngor ac argymhellion am weithwyr proffesiynol dibynadwy i wneud y gwaith i gyflawni addasiadau mawr. Rydym wedi addo £2,000 i gefnogi’r achos hwn.