Pinesgate, Bath
Pinesgate, Lower Bristol Road, Bath, BA2 3DP
Mae’r ased hwn yn cynnwys dau adeilad swyddfeydd ar wahân sy’n ffurfio rhan o un datblygiad. Mae'r eiddo cyfan ar brydles i Redde plc.
At present, the best Rolex Replica are Swiss movements, assembled in Hong Kong, white steel color is 316L steel or 904L steel, gold part is 18K gold or rose gold, work fine, accurate and stable walking, men should Have a 1:1 replica rolex , it is cost-effective, excellent workmanship. Buy your fake rolex here.
Watkin Property Ventures Investments Limited yw ein busnes buddsoddi mewn eiddo. Rydym yn buddsoddi ledled y DU ac yn ffafrio asedau gyda chyfamodau cryf. Hyd yn hyn, mae ein buddsoddiadau wedi amrywio mewn maint rhwng £500k a £50 miliwn ac mae gennym renti cyfredol o tua £18.5 miliwn ar draws ein portffolios amrywiol.
Rydym yn chwilio am gyfleoedd i ychwanegu gwerth at ein heiddo drwy reoli asedau. Mae ein tîm rheoli asedau mewnol yn canfod y cyfleoedd hyn, sy’n cael eu gweithredu ar ein rhan gan ein contractwyr trydydd parti. Mae hyn yn sicrhau bod ein heiddo yn parhau i ateb y gofyn ac yn addas i anghenion busnes eu tenantiaid.
Pinesgate, Lower Bristol Road, Bath, BA2 3DP
Mae’r ased hwn yn cynnwys dau adeilad swyddfeydd ar wahân sy’n ffurfio rhan o un datblygiad. Mae'r eiddo cyfan ar brydles i Redde plc.
Sovereign Gate, Richmond, Surrey, TW9 2NA
Mae’r adeilad swyddfa 5 llawr hwn yn cael ei ddefnyddio gan weithredwr swyddfa â gwasanaeth, “The Boutique Workplace Company”, sy’n darparu amrywiaeth o atebion gofod gwaith.
Offices, One Lansdowne Plaza, Christchurch Road, Bournemouth, BH1 3ND
Mae’r datblygiad swyddfa un deiliad hwn wedi’i osod dros naw llawr. Mae’n cael ei brydlesu i 4 Com Plc.
Livery Place, 35 Livery Street, Birmingham, B3 2PB
Mae’r adeilad swyddfa aml-osod modern hwn wedi’i osod dros saith llawr ac mae wedi’i leoli yn Ardal Gemwaith. Ar hyn o bryd mae ystafelloedd swyddfa o wahanol maint ar gael. Mae rhagor o fanylion ar gael drwy gysylltu â dylan.norton@watkinpv.com
Mae Watkin Property Ventures yn cynnig RHENT 12 MIS AM DDIM I fusnesau newydd/bach ar swyddfeydd yn Livery Place yn CBD Birmingham, yn amodol ar statws. Os oes gennych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod ddiddordeb yn y cyfle gwych hwn, cysylltwch a’n hasiantau gosod eiddo Siddall Jones am ragor o fanylion.
Edward Siddall-Jones at Siddall Jones – Ebost edward@siddalljones.com / Tel 0121 638 0500
21-22 Park Place & 71-77 St Paul's Street, Leeds, LS1 2SL
Mae’r adeilad canol dinas hwn ar bedwar llawr. Mae’n cael ei brydlesu yn gyfan gwbl i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol ac yn gweithredu fel Canolfan Waith.
Keel Row House, 1 Sandgate, Newcastle upon Tyne, NE1 2NG
Mae’r adeilad canol dinas hwn ar bedwar llawr ac yn cael ei feddiannu gan swyddfa cyfreithwyr blaengar.
Gorse Stacks House, 1 George Street, Caer, CH1 3EQ
Mae’r adeilad mawr a modern hwn yn cael ei feddiannu gan Clydesdale Bank Plc (Virgin Money cynt), Hillyer Mckeown a Tilstone Partner Limited.
Maes Y Ffynnon, Bangor, LL57 2DW
Cafodd y swyddfa fawr un meddiannwr hon ei hadnewyddu’n sylweddol yn 2012 ac mae’n cael ei phrydlesu i Gyfoeth Naturiol Cymru.
55, 56 a 57 Ffordd William Morgan, Llys Carlton, Parc Busnes Llanelwy, LL17 0JG
Mae’r tri adeilad modern, tu allan i’r dref, yn cael eu meddiannu gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. North PB Group Limited. HVAC FM, Azets Holdings Limited, Anheddau Cyf ac mae hefyd yn gatref i dîm Eiddo WPV.
25 Conway Road, Bae Colwyn, LL29 7AA
Mae’r adeilad swyddfa hwn, yng nghanol y dref, a gafodd ei adeiladu yn addas i’w bwrpas, yn cael ei brydlesu i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol i’w ddefnyddio gan y Gwasanaeth Prawf.
30 Stryd y Deon, Bangor, LL57 1UR
Mae’r swyddfa canol dinas, aml feddiannaeth yma ar dri llawr. Mae’r tenantiaid yn cynnwys Cartrefi Cymru, Unite the Union, Adferiad Recovery, Addiction Recovery Agency, Pearson Professional Assessments a Maximus UK Services Ltd.
Canolfan waith, Lón Caerdydd, Pwllheli, LL53 5BY
Mae’r swyddfa llawr daear hon yn cael ei phrydlesu i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol, i’w defnyddio fel Canolfan waith.
Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1SR
Mae’r datblygiad defnydd cymysg hwn ar lan yr Afon Menai. Mae’r datblygiad yn cynnwys dros 20,000 troedfedd sgwâr o swyddfeydd gradd A, gyda meddianwyr enwog fel Llywodraeth Cymru, S4C, "Rat Labs Media", "Brown & Brown Insurance" a Chomisiynydd y Gymraeg. Mae gan y swyddfeydd olygfeydd ysblennydd dros y marina gerllaw.
Mae 2 ystafell ar gael i'w rhentu (2,750 troedfedd sgwâr + 3,003 troedfedd sgwâr). Cysylltwch â’n hasiantau gosod tai Dafydd Hardy neu BA Masnachol am ragor o fanylion:
Cysylltwch â’n hasiantaeth gosod tai Dafydd Hardy neu BA Commercial am ragor o fanylion:
Sarah Morton - Dafydd Hardy – ebost: sarahmorton@dafyddhardy.co.uk / Tel: 07879 554684 or 01286 676760
Dan Wild - BA Commercial – ebost: dan.wild@bacommercial.com / Tel: 07701 049826 or 01244 351212
Hunts Cross Retail Park, Hunts Cross, Speke Hall Road, Lerpwl, L24 9GB
Mae’r parc man-werthu aml-osod yma mewn ardal poblog yn Lerpwl wedi ei adnewyddu drwy gynllun gwerth £1 miliwn. Mae tenantiaid yn cynnwys Matalan, JYSK, Jump Inc a Embrace Orthodontics.
45 Stevenson Road, Edinburgh, EH11 2QH
Mae’r uned fanwerthu hon y tu allan i’r dref wedi’i leoli yn ardal gyfoethog Murrayfield yng Nghaeredin ac mae’n cael ei phrydlesu i’r manwerthwr gwella cartrefi, Wickes.
Starbucks, Burrfields Road, Copnor, Portsmouth, Hampshire, PO3 5NP
Mae’r siop gwerthu coffi gyrru trwodd hwn a adeiladwyd yn bwrpasol i’w ddiben yn cael ei feddiannu gan Starbucks.
Siop Co Op, Village Road, Llanfairfechan, LL33 0NH
Mae hon yn siop gyfleustra bwrpasol a modern, gyda mannau parcio, sy'n cael ei meddiannu gan Co-op.
Carlton Shopping Centre, Blacon, Caer, CH1 5HW
Mae’r parêd hwn o unedau manwerthu aml-osod yn gwasanaethu Stad Dai Blacon. Mae'r meddianwyr yn cynnwys siop gigydd, siop trin gwallt, siop bwyd ar fynd Tsieineaidd a siop Spar.
Llawr Gwaelod Isaf a’r Llawr Gwaelod, 5 Bladud Buildings, Bath, BA1 5LS
Mae’r bwyty mawr hwn yn ninas eiconig Bath yng Ngwlad yr Haf, gyda’r meddianwyr yn arbenigo mewn bwyd Indiaidd.
Unedau Manwerthu, Jennens Court, Jennens Road, Birmingham, B5 5LE
Mae'r ased yma’n cynnwys dwy uned manwerthu yng nghanol y ddinas, un yn cael ei meddiannu gan siop Subway a’r llall gan fwyty byrgyr a siop gyfleustra
22 a 24 Oldham Street, Manceinion, M1 1JN
Mae’r 2 uned fanwerthu hon yng nghanol y ddinas yn cael eu meddiannu gan fanwerthwr dillad merched ac mae 1 ar gael i’w rhentu. Cysylltwch â'n Rheolwr Asedau am ragor o fanylion:
Dylan Norton - E-bost dylan.norton@watkinpv.com / Ffôn: 01745 777102.
22 a 24, Allt y Dref, Wrecsam, LL13 8NB
Dwy uned fanwerthu yng nghanol y dref - mae un yn cael ei feddiannu gan farbwr a'r llall yn siop drwyddedig.
Mailhouse, 14 Vaughan Street, Llandudno, LL30 1AA
Mae'r uned fasnachol hwn ar gael i'w rhentu.
Cysylltwch â’n hasiantaeth gosod BA Commercial am ragor o fanylion:
Dan Wild - BA Commercial – ebost: dan.wild@bacommercial.com / Tel: 07701 049826 or 01244 351212
Plaza, 2 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NL
Mae uned gwerthu bwyd ar y llawr isaf yn cael ei meddiannu gan Dominos ac mae’n rhan o ddatblygiad llety myfyrwyr.
Market Square, Fifth Avenue, Llay, Wrexham, LL12 0SA
Mae'r siop cyfleustra dau lawr hon wedi'i lleoli mewn ardal breswyl poblog iawn ac yn masnachu fel "Morrisons Daily".
135 Milton Street, Glasgow, G4 0DH
Gwerthwr pwrpasol Mercedes-Benz mewn lleoliad strategol iawn yng nghanol Glasgow. Mae’r eiddo’n cynnwys dwy ystafell arddangos ceir sy’n darparu cyfanswm o 51 troedfedd sgwâr a maes parcio aml-lawr ar ardal safle o 2.26 erw. Mae’r prof eiddo yn darparu ystafell arddangos health, gyda gwydr llawn a gweithdy mawr yn y cefn.
11-19 Dighton Street, Bristol, BS2 8ES
Mae’r uned manwerthu bwyd llawr gwaelod hwn, wedi’i leoli o dan ddatblygiad llety myfyrwyr, yn cael ei feddiannu gan Pizza Go Go.
Uned 4, Cunliffe, Stad Ddiwydiannol Llangefni, LL77 7JA
Mae’r uned ddiwydiannol hon ar stad ddiwydiannol tu allan i’r dref ac mae’n cael ei phrydlesu gan fanwerthwr iriad.
Y Gweithdy, Uned 22, Stad Ddiwydiannol Llandygai, Bangor, LL57 4YH
Mae'r eiddo hwn yn gyfleuster diwydiannol / warws ar barc masnachol y tu allan i'r dref. Mae cynllun adnewyddu wedi'i gynnal yn ddiweddar ac mae'r uned yn cael ei gosod i Amgueddfa Cymru.
City Island, London, E14 0TQ
2 fflat newydd sbon (3 a 4 ystafell wely) wedi'u lleoli ar Ynys Dinas Llundain sy'n gymdogaeth ynys unigryw o ddiwylliant bywiog a byw cyfoes, yn cynnwys fflatiau preswyl, gwasanaethau a chyfleusterau helaeth a dyfrffyrdd a pharcdir wedi'i dirlunio'n hyfryd.
10 Battersea Park Road, Llundain, SW8 4FF
Mae’r eiddo hwn, a gwblhawyd yn 2019, yn floc o 24 rhandy ac uned manwerthu ar y llawr gwaelod. Cafodd ei gaffael er mwyn manteisio ar y rhan hon o Lundain sy’n datblygu.
Glan Y Mor, Caernarfon, LL55 1TA
Rhandy lle mae warden safle datblygiad preswyl dros 55 oed yn byw yw’r eiddo hwn.
Neuadd y Castell, Kyffin Square, Bangor, Gwynedd, LL57 1LA
Mae’r eiddo hwn ar Stryd Fawr, Bangor. Cafodd yr adeilad presennol ei adnewyddu a’i foderneiddio gydag estyniad ar y cefn, cwblhawyd y gwaith yn 2015. Rhennir yr eiddo yn 11 o fflatiau ystafell wely, pob un gyda cegin, ystafell gawod a gofod cymdeithasol ei hun. Mae pob ystafell wely gyda gwely dwbl bach, ardal astudio gyda desg, cadair a man storio. Mae'r gofod manwerthu ar y llawr gwaelod yn gweithredu fel bwyty Groegaidd.
Plas y Coed, Porth Penrhyn, Bangor, Gwynedd, LL57 4FL
Cwblhawyd y datblygiad tai mawreddog hwn ar gyrion Bangor ger Porth Penrhyn yn 2018. Mae’r buddsoddiad hwn yn cynnwys 5 tai pâr, tair gwely rhydd-ddaliadol, gyda phob tŷ â lle parcio dynodedig ei hun.
Y Bae, Bangor, Gwynedd, LL57 2SZ
Mae’r datblygiad tai modern mawr hwn wedi’i leoli’n agos at geg y Fenai. Mae’r buddsoddiad yn cynnwys 6 fflat dwy ystafell wely, 1 fflat un ystafell wely a 1 tŷ pâr tair ystafell wely.
Clear View, Beach Road, Bangor, Gwynedd, LL57 1AT
Mae’r tŷ sengl tair ystafell wely hwn gyferbyn â glan y môr poblogaidd ar Ffordd y Traeth. Mae gan yr eiddo 3 ystafell wely ddwbl, lolfa cynllun agored ac ardal fwyta, ynghyd â chegin ac ystafell eistedd. Yn allanol mae garej ddwbl a man parcio mawr. Mae’r eiddo’n elwa o wres canolog nwy a gwydrau dwbl.
Gawer Court, Caer, CH1 4EA
Fflat dwy ystafell wely gyda lle parcio pwrpasol yn natblygiad preswyl Gawer Court yn agos at ganol dinas Caer.
Egerton Road, Fallowfield, Manceinion, M14 6XX
Buddsoddiad rhent tir o 19 o dai yn ardal Fallowfields y ddinas.
3 Dale Street, Manchester, M1 1BA
Buddsoddiad rhent tir o 22 fflat yn chwarter gogleddol y ddinas.
The Mailhouse, Vaughan Street, Llandudno, LL30 1AA
Buddsoddiad rhent tir ar gyfer lloriau uchaf adeilad rhestredig Gradd 2.
Atlantic Street Retail Park, Altrincham, WA14 5BW
Unedau manwerthu a hamdden ar barc manwerthu prysur yn y dref cymudwr gyfoethog hon yng Ngogledd Orllewin Lloegr. Y tenantiaid yw "Farm Foods", gweithredwr ali fowlio, a gwasanaeth prynu ceir "We Buy Any Car".
Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1SR
Mae’r datblygiad defnydd cymysg hwn ar lannau’r Fenai. Mae Doc Fictoria yn gartref i ddau westy cadwyn cenedlaethol - Premier Inn a Travelodge, bwyty Cantonese gwych, bwyty Table Table, bwyty Indiaidd a bwyty coginio rhyngwladol ffres sy'n chwarae rhan fawr mewn denu ymwelwyr i'r ardal leol.
Mae yna hefyd fragdy meicro yn cael ei osod ar hyn o bryd a fydd yn agor ei ddrysau yn fuan.
Neuadd Kyffin, 100a Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd, LL57 1NZ
Mae’r neuaddau preswyl myfyrwyr yma ar gyfer 97 o fyfyrwyr wedi’i leoli ar stryd fawr, Bangor. llawr gyda dwy uned fasnachol ar lefel y ddaear, un yn cael ei feddiannu gan artist tatŵ ac un "laundrette".
Tŷ Ni, 17-23 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NP
Tair uned fanwerthu ar y llawr gwaelod lle mae Deintydd, arlunydd tatŵ a siop atgyweirio cyfrifiaduron. Mae’r lloriau uchaf yn cynnwys 18 o fflatiau stiwdio myfyrwyr.
Llys y Deon, Dean Street, Bangor, Gwynedd, LL57 1US
Adeiladwyd y neuaddau preswyl myfyrwyr 200 gwely yma ar Dean Street ac yn agos at brif gampws y Brifysgol yn 2015. Mae’r datblygiad yn cynnig ystod o ystafelloedd i weddu amrywiol gyllidebau, o ystafelloedd sengl i stiwdios. Mae pob ystafell yn cynnwys gwely dwbl bach ac ardal astudio gyda desg a chadair ac ystafell gawod en-suite ei hun.