Cymraeg

At present, the best Rolex Replica are Swiss movements, assembled in Hong Kong, white steel color is 316L steel or 904L steel, gold part is 18K gold or rose gold, work fine, accurate and stable walking, men should Have a 1:1 replica rolex , it is cost-effective, excellent workmanship. Buy your fake rolex here.

Our Team:

Mark Watkin Jones

Prif Weithredwr

Mark Watkin Jones yw Prif Swyddog Gweithredol Watkin Property Ventures. Mae Mark yn un o’r ffigurau mwyaf adnabyddus yn y diwydiant eiddo, gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad gweithredol ar lefel Bwrdd ar draws y diwydiant eiddo.

Yn 2016, fe arweiniodd IPO Watkin Jones plc ar Gyfnewidfa Stoc Llundain, ar ôl arwain y broses o drawsnewid Watkin Jones o fod yn ddatblygwr rhanbarthol yn ddatblygwr ar eiddo cyhoeddus eiddo preswyl a reolir yn y DU.

Ers 2019, mae Mark wedi canolbwyntio ar adeiladu Watkin Property Ventrues, grŵp o fusnesau eiddo sy’n gweithredu ar draws buddsoddi, cyllid a datblygu. Mae wedi ennill enw da fel un o brif ddarparwyr cyllid datblygu hyblyg i fusnesau eiddo uchelgeisiol.

Watkin Property Ventures

Yn Ionawr 2019, sefydlodd Watkin Property Ventures (WPV) gyda aelodau eraill o deulu Watkin Jones. Mae WPV yn gweithredu fel swyddfa deulu, sef teulu Watkin Jones, gan weithredu ar draws buddsoddi, cyllid eiddo a datblygu.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae WPV wedi canolbwyntio ar raddio ei fusnes cyllid datblygu. Mae’n darparu cyllid ystwyth, cyflym a hyblyg i fusnesau eiddo uchelgeisiol ar draws pob math o gynlluniau eiddo.

O dan arweinyddiaeth Mark mae WPV wedi gweithio gyda rhai o ddatblygwyr eiddo mwyaf llwyddiannus yn y wlad. Mae cefndir helaeth diwydiant Mark yn gallugoi WPV i adeiladu perthnasoedd gwirioneddol bersonol â datblygwyr, gan deilwra telerau ad-dalu i anghenion unigol datblygwyr.

Watkin Jones plc

Rhwng 2000 a 2018, roedd Mark yn Brif Swyddog Gweithredol Watkin Jones plc, y nawfed genhedaeth o’r teulu i arwain y busnes, o dan ei arweinyddiaeth tyfodd Watkin Jones o fod yn ddatblygwr rhanbarthol i fod yn un o gwmniau eiddo mwyaf y DU.

Yn 2012, cymerodd Mark y penderfyniad strategol i ganolbwytio’r busnes ar y sectorau llety Myfyrwyr sydd wedi’i adeiladu’n bwrpasol ac hefyd adeiladau i’w rhentu. Pedair blynedd yn ddiweddarach, fe arweiniodd y busnes trwy ei IPO llwyddiannus ar yr LSE ar gap marchnad o £255 miliwn.

Ers ei IPO, mae’r busnes wedi parhau i ddarparu enillion cryf i gyfranddalwyr, gyda’i pris stoc yn fwy na dwbl erbyn diwedd deiliadaeth Mark. Heddiw Watkin Jones plc yw prif ddatblygwr PBSA yn y DU, ar ôl adeiladu 41,000 o ystafelloedd wely dros 123 o safleoedd ers 1999.

Fel Prif Swyddog Gweithredu, rhoddodd Mark gryn dipyn o ffocws ar ddatblygiad personol yn y cwmni. Yn 2004, rhoddodd gymorth i sefydlu Rhaglen Ysgoloriaeth Adeiladu Watkin Jones, gan roi’r addysg a’r hyfforddiant sydd eu hangen ar unigolion talentog i ddatblygu eu gyrfaoedd ym maes adeiladu.

Yn 2008, enillodd Entrepreneur Eiddo Tiriog y Flwyddyn Ernst & Young. Yn 2016, enillodd wobr Personoliaeth Eiddo y Flwyddyn gan ‘Wales Insider’. Yn 2017, enillodd Arweinydd Busnes y Flwyddyn yng Ngwobrau Arweinwyr Busnes y ‘Reginal Insider’. Roedd hefyd ar restr fer Gwobr Entrepreneur y Flwyddyn gan AIM.

Mis Rhagfyr 2018, death Mark â’i ddeiliadaeth i ben fel Prif Swyddog Gweithredol Watkin Jones plc. Mae teulu Watkin Jones yn parhau i fod yn gyfranddalwyr lleiafrifol.

Cymuned

Trwy WPV, mae Mark a theulu Watkin Jones wedi bod yn gefnogwyr cyson i achosion cymunedol ledled Gogledd Cymru.

Yn ddiweddar, mae’r teulu wedi rhoi rhoddion i’r elusen ganser plant Gafael Llaw, Banc Bwyd Mosaic yn Coed Mawr, hosbis plant Hope House Tŷ Gobaith, Awyr Las, North Wales Recovery Communities ac eraill.

Yn 2019, addawodd WPV becyn cefnogaeth aml flwyddyn i CPD Bangor 1876 FC, clwb pêl droed newydd ym Mangor, gyda chefnogwyr yn berchen ar y clwb.

Mark Watkin Jones edit